Beth sydd ar gael?

Ar ôl cysylltu â ni byddwn yn cynnig asesiad cynhwysfawr i chi dros y ffôn i benderfynu ar addasrwydd y gwasanaeth i chi ac eich union anghenion.  Byddwch chi a’r asesydd yn trafod rhestr o wasanaethau posib ac yna’n cytuno ar yr un sydd fwyaf addas ar eich cyfer chi.

Hunan Help

Byddwn yn eich helpu i ddod o hyd i’r wybodaeth sydd ei hangen arnoch i fedru rheoli’ch iechyd meddwl ac emosiynol. Gallwn eich rhoi ben ffordd ynghylch llawer o wybodaeth ar y we ynghyd ag awgrymu taflenni a llinellau cymorth.

Hunan Help gydag Arweiniad

Mae Therapi Ymddygiad Gwybyddol Cyfrifiadurol (CCBT) Sirioldeb yn rhaglen hunan help rhyngweithiol sy’n fodd ichi gwblhau cyfres o fodiwlau hunan help yn eich amser eich hun. Mae modiwlau yn ymdrin â phynciau fel sut i reoli eich gorbryder ac iselder a thechnegau ymlacio.  Yn dilyn cyfarfod cyflwyno gyda gweithiwr Therapi Ymddygiad Gwybyddol Cyfrifiadurol, bydd sesiynau dilynol rheolaidd dros y ffôn/e-bost.

Grwpiau Therapiwtig

Mae’r grwpiau therapiwtig canlynol mewn lleoliadau cyfleus ar draws Gogledd Cymru, mewn saith neu wyth sesiwn wythnosol:

Bydd y cyrsiau addysg hyn yn canolbwyntio ar eich taith at wella. Yn y cyrsiau byddwch yn ennill y sgiliau sydd eu hangen arnoch i reoli’ch iechyd meddwl a lles yn fwy effeithiol.
Mae rhestr o’r cyrsiau ar y gweill isod.

Therapi Unigol

Mae’n bosib y byddai therapi unigol yn ddefnyddiol os ydych chi’n teimlo fod angen ichi fynd i’r afael gyda digwyddiadau bywyd heriol neu drafferthion iechyd meddwl cyffredin un-i-un gyda chynghorydd cymwys.  Bydd cyfle ichi fanteisio ar asesiad cwnsela ynghyd â chwe sesiwn cwnsela. Mae’r sesiynau yn wythnosol gyda phob sesiwn yn para am 50 munud.

 

 

Grwpiau therapiwtig ar y gweill

Mae llawer o grwpiau Parabl bellach yn digwydd ar-lein


Sir: Meirionydd | Cwrs: Pryder & Pryder/Iselder | Dyddiad / Cyfnod : Mawrth/Ebrill, 6 wythnos | Lleoliad: Ar-lein | Darparwr: Tan y Maen, Church Street, Blaenau Ffestiniog, LL41 3HB


Sir: Meirionydd | Cwrs: Therapi Derbyniad ac Ymrwymiad | Dyddiad / Cyfnod : I’w gadarnhau, 6 wythnos | Lleoliad: Ar-lein | Darparwr: Tan y Maen, Church Street, Blaenau Ffestiniog, LL41 3HB


Grwpiau ymwybyddiaeth ofalgar


I’w gadarnhau