"Partneriaeth Therapïau Siarad"

mewn partneriaeth yn amcanu at wella iechyd meddwl a lles emosiynol yng Ngogledd Cymru

Bwriad Parabl

Mae gwasanaeth Therapi Siarad Parabl yn rhoi cefnogaeth therapiwtig  tymor byr i bobl sy’n ei chael hi’n anodd ymdopi â sefyllfa boenus neu broblem iechyd meddwl cyffredin a all fod yn effeithio ar eu lles emosiynol.

I bwy mae Parabl?

Mae gwasanaeth Therapi Siarad Parabl ar gael i bawb sydd dros 18 oed ac yn byw yn siroedd Gwynedd, Môn, Conwy, Dinbych, Fflint a Wrecsam.

Beth sydd ar gael?

Ar ôl cysylltu â ni byddwn yn cynnig asesiad cynhwysfawr i chi dros y ffôn i benderfynu ar addasrwydd y gwasanaeth i chi ac eich union anghenion.  Byddwch chi a’r asesydd yn trafod rhestr o wasanaethau posib ac yna’n cytuno ar yr un sydd fwyaf addas ar eich cyfer chi.