Sgiliau Rheoli Straen

Sgiliau Rheoli Straen – cwrs 14-awr dros 7 wythnos

Mae’r cwrs Sgiliau Rheoli Straen yn cael ei ddarparu ar gyfer y Bartneriaeth Parabl gan Mind Sir y Fflint – mae cwrs Sgiliau Rheoli Straen Mind Sir y Fflint wedi ei gynllunio i helpu pobl i ddeall a rheoli straen yn eu bywydau. Mae wedi ei anelu at bobl sy’n cael trafferth gyda straen a mae’n seiliedig ar Dechnegau Ymddygiad Gwybyddol profedig. Mae’n anffurfiol, mae’n rhad ac am ddim, ac fe’i gynhelir mewn lleoliadau cymunedol ledled Sir y Fflint a Wrecsam.

Beth fyddwch chi’n ei ddysgu?
Be ydi straen a pham mae’n digwydd.
Sut i nodi achosion ac effeithiau straen yn eich bywyd.
Sut i dorri’r cylch o feddwl yn bryderus gan ddefnyddio Technegau Ymddygiadol Gwybyddol sydd wedi’u profi.
Syniadau a technegau ymarferol i reoli straen
Technegau ymlacio syml
Sut y gall cwsg, bwyta iawn ac ymarfer corff helpu

I bwy mae’r cwrs?
Mae’r cwrs yn addas i chi os ydych yn 18 oed neu drosodd, yn byw yn Sir y Fflint neu Wrecsam, dan straen neu’n bryderus ac wedi cael eich cyfeirio at y cwrs gan Bartneriaeth Therapi Parabl ar ôl asesiad dros y ffôn.

Hyd
Cynhelir y cyrsiau drwy gydol y flwyddyn. Mae pob cwrs yn para am saith wythnos ac mae pob sesiwn yn ddwy awr o hyd. Mae’r sesiynau yn cael eu cynnal yn gynnar yn y nos, fel arfer 18:00 tan 20:00

Ble mae’n cael ei gynnal?
Cynhelir y cyrsiau mewn lleoliadau cymunedol o gwmpas Sir y Fflint a Wrecsam, gan gynnwys Cei Connah, Y Fflint, Gwersyllt, Treffynnon, Yr Wyddgrug, Rhiwabon a Wrecsam. Mae ein lleoliadau yn hawdd i ddod o hyd iddynt, yn agos at barcio a chludiant cyhoeddus ac yn gwbl hygyrch i bobl anabl.

Sefydlu ac Adborth
Yn y sesiwn cyntaf y byddwch yn cael cyflwyniad byr am y cwrs, ac yna ymgynghoriad un i un gydag un o’n therapyddion / hyfforddwyr. Bydd gofyn i chi lenwi holiadur byr yn y sesiwn gyntaf ac eto tua diwedd y cwrs a fydd yn ein helpu i roi adborth unigol chi ac yn gwneud yn siŵr bod y cwrs yn gwneud gwahaniaeth go iawn i’ch bywyd.

Beth yw’r canlyniadau?
Mae’r mwyafrif yn dweud eu bod yn teimlo y gallant drin straen yn well yn eu bywyd ar ôl dilyn y cwrs. Mae ein monitro gofalus o bob un person yn dangos bod hyn yn cael ei ategu gan dystiolaeth o welliant gwirioneddol a mesuradwy. Ar gyrsiau blaenorol a gynhaliwyd yn ystod 2012/13:

Dywedodd 83% o gyfranogwyr, o ganlyniad i’r cwrs maent yn teimlo y gallent ddelio â’r heriau sy’n eu hwynebu yn eu bywydau yn well, gyda 89% o’r cyfranogwyr yn dangos gwelliant mesuradwy yn eu symptomau ar ôl y cwrs. Dywedodd 97% o’r cyfranogwyr y byddent yn argymell y cwrs i eraill

Cymwysterau a phrofiad y staff
Mae’r cwrs Rheoli Straen yn cael ei gyflwyno gan Mind Sir y Fflint, yr arbenigwyr ym maes iechyd meddwl. Mae ein holl hwyluswyr yn therapyddion eu hunain ac i gyd yn aelodau o’r BACP, yn ogystal â bod yn hyfforddwyr profiadol.

Beth mae ein cyfranogwyr yn dweud:
“Byddwn yn ei argymell i unrhyw un”, “Cwrs ardderchog.”,
“Mae’n agoriad llygad go iawn”, “Effeithiol iawn”,
“Mae’r hyfforddwyr yn wych! Broffesiynol iawn ac yn gyfeillgar – pobl hyfryd “.
 
Yn Mind Sir y Fflint rydym yn credu y dylai neb orfod wynebu problem iechyd meddwl yn unig. Rydym yma i wneud yn siŵr bod gan bawb rhywle i droi ato am gyngor a chymorth. Mae Mind yng Nghymru a Lloegr yn elusen iechyd meddwl blaenllaw Cymru.
Os oes angen unrhyw wybodaeth bellach cyn i chi ymuno â’n cwrs ffoniwch 01352 757637 neu e-bostiwch maria.kennedy@flintshiremind.org.uk

Mae’r cwrs Sgiliau Rheoli Straen yn cael ei ddarparu ar gyfer y Bartneriaeth Parabl gan Mind Sir y Fflint, 23b Stryd Caer, Yr Wyddgrug CH7 1EG. Elusen Gofrestredig Rhif 1126091 Cwmni cofrestredig yng Nghymru a Lloegr: Rhif Cofrestru 6504104