Bwriad Parabl

Mae gwasanaeth Therapi Siarad Parabl yn rhoi cefnogaeth therapiwtig  tymor byr i bobl sy’n ei chael hi’n anodd ymdopi â sefyllfa boenus neu broblem iechyd meddwl cyffredin a all fod yn effeithio ar eu lles emosiynol.

Caiff y gwasanaethau eu darparu gan gonsortiwm o elusennau ac maen nhw’n ategu’r rhai sydd ar gael gan y Gwasanaeth Cefnogi Iechyd Meddwl Sylfaenol BCUHB.  Mae’r gwasanaethau ar gael mewn sawl lle ar draws gogledd Cymru am mewn pob math o leoliadau. Mae apwyntiadau’n hyblyg ac ar gael yn ystod y dydd, gyda’r nos ac ar benwythnosau.

I weld i daflen ddwyieithog Parabl, cliciwch yma.

 

Gweithio mewn partneriaeth

Partneriaid Parabl yw ABF Wrecsam, NEW Mind, Mind Conwy, CAIS, Tan y Maen a Mind Gwynedd a Môn. Mae Mind Dyffryn Clwyd, Relate a Cruse yn darparu gwasanaethau hefyd.