Ymwybyddiaeth Ofalgar ar gyfer iselder – Cwrs 8 wythnos
Mae Therapi Gwybyddol (MBCT) yn seiliedig ar Ymwybyddiaeth Ofalgar-wedi’i gynllunio yn benodol i helpu pobl sy’n dueddol o iselder cylchol. Mae’n cyfuno technegau ymwybyddiaeth ofalgar fel myfyrdod, ymarferion anadlu ac ymestyn gydag elfennau o therapi gwybyddol i helpu i dorri’r patrymau meddwl negyddol sy’n nodweddiadol o iselder rheolaidd.
Yn aml defnyddir cyrsiau hir dymor o gyffuriau gwrth-iselder i drin iselder rheolaidd. Fodd bynnag, mae bron i dri-chwarter o feddygon teulu yn credu y byddai myfyrdod ymwybyddiaeth ofalgar yn ddefnyddiol i bobl â phroblemau iechyd meddwl, a thraean eisoes yn cyfeirio cleifion i MBCT yn rheolaidd. Mae MBCT wedi cael ei brofi yn wyddonol i helpu pobl sydd ag amrywiaeth o broblemau iechyd meddwl megis:
Iselder
Anhwylderau deubegwn
Insomnia
Mae MBCT yn dysgu pobl i dalu sylw i’r foment bresennol, yn hytrach na phoeni am y gorffennol neu’r dyfodol, ac i ollwng gafael ar feddyliau negyddol a all ddechrau iselder.
Mae hefyd yn rhoi mwy o ymwybyddiaeth i bobl am eu cyrff, a’u helpu i adnabod arwyddion iselder er mwyn rhwystro’r iselder rhag cychwyn.
Ymrwymiad personol
Mae Ymwybyddiaeth Ofalgar yn rhywbeth sydd ty fewn I bawb: mae gennym i gyd y gallu i ddod yn fwy ymwybodol. Fodd bynnag, i gael y mwyaf allan o’r cwrs, mae’n bwysig i ymrwymo i fynychu pob sesiwn ac i ymarfer gartref. Ar gyfer yr ymarferion cartref rydym yn gofyn i chi neilltuo 50 munud bob dydd i ymarfer y sgiliau rydych wedi eu dysgu.
Eich tiwtor
Bydd eich cwrs yn cael ei arwain gan hwylusydd profiadol sydd wedi hyfforddi gyda’r Ganolfan Ymwybyddiaeth Ofalgar Ymchwil ac Ymarfer ym Mhrifysgol Bangor I arwain cyrsiau Ymwybyddiaeth Ofalgar I Lleihau Straen (MBSR) a Therapi Gwybyddol ar Sail Ymwybyddiaeth Ofalgar (MBCT).
Ymgynghori Cychwynnol
Unwaith y byddwch wedi cael eich derbyn ar y cwrs byddwn yn cysylltu â chi i drefnu ymgynghoriad 30 i 60 munud gyda’ch tiwtor, naill ai yn bersonol neu dros y ffôn. Mae hyn yn rhoi cyfle i chi ddod I wybod mwy am y cwrs, gofyn cwestiynau, a siarad am y pwysau a’r problemau rydych yn eu hwynebu, yr hyn yr ydych yn ei disgwyl, ac unrhyw bryderon sydd gennych.
Strwythur ac adnoddau’r cwrs.
Mae’r cwrs wedi ei rannu yn wyth sesiwn wythnosol, gyda sesiwn hir ar ddiwrnod ychwanegol sydd fel arfer yn cael ei gynnal ar ddydd Sadwrn. Mae’r cwrs yn ymarferol iawn a byddwch yn treulio’r rhan fwyaf o’r amser yn dysgu ac yn rhoi cynnig ar yr ymarferion myfyrdod, ioga a symudiadau’r corff, er y bydd yna hefyd rhywfaint o drafodaeth ac efallai y byddwn yn gwylio DVD. Byddwch yn cael taflenni a CDs ar gyfer ymarfer gartref.
Gwybodaeth bellach
Os ydych yn meddwl y gallai cwrs Ymwybyddiaeth Ofalgar trylwyr fod yn ddefnyddiol, gallwch cysyllty gyda Parabl, a bydd rhywun yn eich ffonio’n ôl i drafod eich problemau yn fanylach ac yn eich helpu i benderfynu os gallai’r cwrs fod yn iawn i chi. Mae Parabl yn cynnig gwasanaethau eraill hefyd gan gynnwys chyrsiau rheoli iselder a straen, hunangymorth dan arweiniad, cwnsela profedigaeth a therapy unigol. Felly, hyd yn oed os nad ydy Ymwybyddiaeth Ofalgar yn addas i chi efallai y byddwn yn gallu eich helpu gyda chyrchddull arall.
Am fwy o fanylion:
E-bost:ask@parabl.org
Ffôn: 0300 777 2257