Ymwybyddiaeth Ofalgar ar gyfer straen

Lleihau straen drwy Ymwybyddiaeth Ofalgar – cwrs 8 wythnos
Er y gall adegau byr dan wasgedd ein helpu i godi i gwrdd â her, gall straen hir-dymor effeithio ar ein iechyd corfforol a meddyliol. Mae Ymwybyddiaeth Ofalgar yn ffordd o ddysgu sut i ymwneud yn uniongyrchol a’ch profiadau bob dydd. Mae’n ffordd o gymryd rheolaeth o’ch bywyd a gwneud rhywbeth i chi eich hun. Yn syml, mae Ymwybyddiaeth Ofalgar yn ymwneud â byw yn y presennol ac dysgu sut i ymdrin yn uniongyrchol ac eich profiadau bob dydd.

Mae lleihau straen sy’n seiliedig ar Ymwybyddiaeth Ofalgar-(MBSR) yn defnyddio technegau fel ymarferion myfyrdod, ioga ysgafn a ymarferion meddwl-corff i helpu i ymdopi â straen. Bydd yn eich helpu i ddod yn fwy ymwybodol a bydd bod yn ymwybodol yn eich helpu i ymdopi â straen, rheoli poen, dod i adnabod eich teimladau a’ch helpu i roi’r gorau i poeni am y gorffennol neu boeni am y dyfodol. Bydd yn eich helpu i gael mwy allan o fywyd.

Beth yw’r dystiolaeth?
Mae gwaith ymchwil diweddar wedi dangos y gall ymwybyddiaeth ofalgar, wedi’w ddysgu fel rhan o gwrs wyth wythnos, arwain at newidiadau mesuradwy yn y rhannau o’r ymennydd sy’n bwysig ar gyfer hunan-ymwybyddiaeth, cof, dysgu a thosturi. Manteision eraill a amlygwyd gan astudiaethau clinigol yw:

gostyngiad o 70 y cant mewn pryder
gostyngiad parhaus mewn pryder tair blynedd ar ôl gwneud y cwrs
cwsg hirach ac o well ansawdd , gyda llai o broblemau cwsg

Ymrwymiad personol
Mae Ymwybyddiaeth Ofalgar yn rhywbeth sydd y tu fewn i bawb: mae gennym i gyd y gallu i ddod yn fwy ymwybodol. Fodd bynnag, i gael y mwyaf allan o’r cwrs, mae’n bwysig i ymrwymo i fynychu pob sesiwn ac i ymarfer gartref. Ar gyfer yr ymarferion cartref rydym yn gofyn i chi neilltuo 50 munud bob dydd i ymarfer y sgiliau rydych wedi eu dysgu.

Eich tiwtor
Bydd eich cwrs yn cael ei arwain gan hwylusydd profiadol sydd wedi hyfforddi gyda’r Ganolfan Ymwybyddiaeth Ofalgar Ymchwil ac Ymarfer ym Mhrifysgol Bangor i arwain cyrsiau Ymwybyddiaeth Oflagar I Leihau Straen (MBSR) a Therapi Gwybyddol ar Sail Ymwybyddiaeth Ofalgar (MBCT).

Ymgynghori Cychwynnol
Unwaith y byddwch wedi cael eich derbyn ar y cwrs byddwn yn cysylltu â chi i drefnu ymgynghoriad 30 i 60 munud gyda’ch tiwtor, naill ai yn bersonol neu dros y ffôn. Mae hyn yn rhoi cyfle i ddarganfod mwy am y cwrs, gofyn cwestiynau, siarad am y straen a’r problemau rydych yn eu hwynebu, yr hyn yr ydych yn ei disgwyl ac unrhyw bryderon sydd gennych chi.

Strwythur ac adnoddau cwrs.
Mae’r cwrs wedi ei rannu yn wyth sesiwn wythnosol, gyda sesiwn hir ar ddiwrnod ychwanegol sydd fel arfer yn cael ei gynnal ar ddydd Sadwrn. Mae’r cwrs yn ymarferol iawn a byddwch yn treulio’r rhan fwyaf o’r amser yn dysgu ac yn rhoi cynnig ar yr ymarferion myfyrdod, ioga a symudiadau’r corff, er y bydd yna hefyd rhywfaint o drafodaeth ac efallai y byddwn yn gwylio DVD. Byddwch yn cael taflenni a CDs ar gyfer ymarfer gartref.

Am fwy o wybodaeth
Os ydych yn meddwl y gallai cwrs Ymwybyddiaeth Ofalgar trylwyr fod yn ddefnyddiol, gallwch cysylltu gyda phartneriaeth Parabl, a bydd rhywun yn eich ffonio’n ôl i drafod eich problemau yn fanylach ac yn eich helpu i benderfynu os gallai’r cwrs fod yn iawn i chi.

Mae Parabl yn cynnig gwasanaethau eraill hefyd gan gynnwys chyrsiau rheoli iselder a straen , hunangymorth dan arweiniad, cwnsela profedigaeth a therapi unigol. Felly, hyd yn oed os nad Ymwybyddiaeth Ofalgar yn addas i chi efallai y byddwn yn gallu eich helpu gyda chyrchddull arall.