Therapi Gwybyddol Cyfrifiadurol – Sirioldeb

Ydych yn teimlo ar goll, dan straen, pryderus, hwyliau isel? A hoffech chi deimlo’n hapusach ac yn fwy hamddenol?

Mae’r Rhaglen Sirioldeb wedi cael ei ddatblygu dros gyfnod o ddeng mlynedd gyda chyfraniaethau gan defnyddwyr gwasanaethau bob cam o’r ffordd, ac mae’n parhau i esblygu law yn llaw ag ymchwil newydd er mwyn datblygu ymarfer clinigol i fod mor effeithiol a phosib…

“… Roeddwn yn dioddef o straen, roeddwn angen help i ymdawelu ac mae hyn wedi helpu mewn gwirionedd” JL, Abergele

“Ffordd gwych i weithio gyda phobl – mae pawb wedi bod yn gadarnhaol iawn am y rhaglen. Rwy’n teimlo fy mod wedi llwyddo i wneud cynnydd gydag 8 o bobl heddiw, fel arfer byddwn yn gweld uchafswm o 4 person mewn diwrnod, rhwng teithio ac ati “LM, Seicolegydd

“Mae’n wych, mae wedi gwneud argraff da iawn, mae’n beth gwych i gael …” AD, Dinbych

Cynnwys
1 Cyflwyniad
2 Deall Pryder
3 Dod yn Wahanol
4 System B.E.S.T.
5 Dysgu Ymlacio
6 Meddyliau gofidus
7 Teimladau gofidus
8 Datrys Problemau
9 Aros yn Iach

Naw modiwl o gynnwys rhyngweithiol gan gynnwys dros 60 o ymarferion hunangymorth

Gwybodaeth i Ddefnyddwyr
Diolch am ddewis y Rhaglen Serenity! Mae’n ganlyniad o flynyddoedd o waith ymchwil, datblygu ac ymgynghori gyda llawer o ddefnyddwyr gwasanaeth a gweithwyr proffesiynol. Mae’r cyflwyniad cyflym yma yn rhoi trosolwg o’r rhaglen a chanllaw byr o’i defnydd.

Am Therapi Ymddygiad Gwybyddol
Mat therapi ymddygiad gwybyddol (CBT yn fyr) yn ffurf gymharol fer a strwythuredig o seicotherapi, yn seiliedig ar yr egwyddor bod y pethau yr ydym yn meddwl ac yn eu gwneud yn effeithio ar sut rydym yn teimlo. Oherwydd bod ein meddyliau, emosiynau, teimladau corfforol ac ymddygiad yn gysylltiedig a’u gilydd, drwy newid y ffordd rydym yn meddwl gallwn helpu i newid ein gweithredoedd a’n teimladau. Mae’r rhaglen yn cynnwys cymysgedd o CBT a dulliau adfer eraill dibynadwy ac arloesol , sy’n unigryw i’r rhaglen.

Am CBT Cyfrifiadurol?
Mae therapi ymddygiad gwybyddol cyfrifiadurol – CCBT yn fyr – yn golygu bod y CBT yn cael ei ddarparu, neu ei gefnogi, gan gyfrifiadur. Gellir CCBT cael ei ddefnyddio ochr yn ochr â sesiynau gyda therapydd neu ar ei ben ei hun. Cynlluniwyd rhai rhaglenni CCBT i gael eu rhedeg o gyfrifiadur yn unig; cynlluniwyd eraill i gael eu cyflwyno gyda chefnogaeth gan berson arall.

At ba pwrpas mae’r Rhaglen Serenity?
Mae’r Rhaglen Serenity wedi’i gynllunio i helpu pobl sydd â symptomau straen a phryder, er bod llawer o bobl yn canfod ei fod yn helpu gydag iselder hefyd. O wefan y rhaglen (serene.me.uk) gallwch lawrlwytho llyfrau gwaith i’ch helpu gyda’ch adferiad. Gallwch eu cadw ar eich cyfrifiadur, lle gallwch deipio yn uniongyrchol i mewn iddynt. Ar ôl i chi eu cael ar eich cyfrifiadur, mae nhw yna i chi eu cadw. Nid ydynt yn anfon unrhyw wybodaeth dros y Rhyngrwyd – meant yn gyfrinachol i chi.

Sut ydw i’n defnyddio’r rhaglen?
Peidiwch â digalonni am faint y llyfrau gwaith, gallwch weithio drwyddynt ar gyflymder sy’n addas i chi, dros gyfnod o wythnosau neu fisoedd. Rydym yn argymell i chi weithio drwy’r rhaglen un adran ar y tro. Er y gallwch wneud hyn ar eich pen eich hun, rydym yn annog pawb i wneud defnydd o ‘gynorthwywr’. Efallai y byddwch yn cyfarfod wyneb-yn-wyneb gyda eich cynorthwy-ydd neu siaradwch â nhw dros y ffôn. Bydd eich cynorthwydd yn trefnu hyn pan fyddwch yn cwrdd gyntaf. Gweithiwch trwy’r rhaglen ar gyflymder sy’n addas i chi, ond ceisiwch wneud amser rheolaidd i weithio gyda’r rhaglen er mwyn cadw’r momentwm.

Eich preifatrwydd
Unwaith y byddwch wedi lawrlwytho’r llyfrau gwaith eich rhai chi ydyn nhwi i gadw – ni fyddwn yn gofyn am rhain yn ôl. Ar ddiwedd pob adran, rydym yn gofyn i chi gwblhau rhai holiaduron ac i gofnodi eich sgôr yn eich llyfrau gwaith. Efallai y bydd eich cynorthwy-ydd yn gofyn i chi am y sgorau hyn, fel eu bod yn gwybod sut yr ydych yn dod ymlaen. Nid yw’r wefan Rhaglen Serenity yn storio nac yn anfon unrhyw wybodaeth bersonol dros y Rhyngrwyd. Rydych yn gwbl gyfrifol am yr hyn yr ydych yn ei ysgrifennu yn eich llyfr gwaith a phwy sy’n ei weld.

Pa mor hir y bydd yn ei gymryd?
Nid oes unrhyw reolau am hyn, ond yn disgwyliwch i gymryd o leiaf 3 mis i gwblhau’r rhaglen. Peidiwch â phoeni os bydd yn cymryd mwy o amser, a peidiwch â chael eich temtio i ruthro drwy’r ymarferion ymarferol gan eu bod yn bwysig iawn.

Beth os bydd angen ychydig o help ychwanegol?
Bydd eich cynorthwy-ydd yn cysylltu â chi yn rheolaidd, a gallwch gysylltu â nhw eich hun os oes angen. Gadewch i’ch cynorthwy-ydd wybod os ydych yn ansicr ynghylch unrhyw beth, neu os oes gennych unrhyw gwestiynau am y rhaglen.
Mewn argyfwng, gallwch bob amser gysylltu â’r Samariaid naill ai dros y ffôn (08457 909090) neu drwy e-bost (jo@samaritans.org ).

Diolch i chi am ddefnyddio’r rhaglen, rydym yn gobeithio y byddwch yn ei fwynhau ac yn ei chael yn ddefnyddiol!

I gael rhagor o wybodaeth: www.serene.me.uk