Mae gwasanaeth Therapi Siarad Parabl ar gael i bawb sydd dros 18 oed ac yn byw yn siroedd Gwynedd, Môn, Conwy, Dinbych, Fflint a Wrecsam.
Mae ein partneriaeth yn cynnig ymyriad therapiwtig effeithiol a thymor byr ar gyfer pobl yn dioddef trafferthion iechyd meddwl cyffredin a digwyddiadau bywyd heriol sydd o bosib yn effeithio ar eu lles emosiynol. Rhowch gynnig ar ein canllaw hawdd-i’w-ddefnyddio er mwyn gweld ydy Parabl yn addas ichi!
• Ydych chi’n manteisio ar wasanaeth Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol neu wasanaethau Gofal Sylfaenol ar hyn o bryd?
Mae Parabl yn cynnig cefnogaeth lefel isel. Os ydych chi eisoes yn manteisio ar wasanaeth eich Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol neu wasanaethau Gofal Sylfaenol eraill, mae’n bosib y cafodd eich anghenion eu hasesu yn rhy uchel ar gyfer Parabl.
Mae croeso ichi gysylltu gyda Parabl unwaith na fyddwch chi’n manteisio ar y gwasanaethau uchod.
• Ydych chi ar restr aros ar gyfer cwnsela, neu gwrs/therapi meddyliol drwy’r GIG?
Os ydych chi eisoes ar restr aros ar gyfer therapi drwy’r GIG, cafodd eich anghenion eu hasesu fel eu bod yn rhy uchel ar gyfer Parabl.
Mae croeso ichi gysylltu gyda Parabl unwaith na fyddwch chi’n manteisio ar y gwasanaethau uchod.
• Ydy eich prif drafferthion yn sgil profedigaeth?
Os ydych chi’n credu fod eich trafferthion wedi gwaethygu yn sgil profedigaeth, cysylltwch gyda CRUSE yn uniongyrchol ar 0844 561 7856 neu drwy northwales@cruse.org.uk
Fel arall, gallwch gysylltu gyda Parabl er mwyn iddyn nhw eich cyfeirio at CRUSE.
• Ydy eich trafferthion wedi’ch arwain ichi neu rywun arall boeni am faint ydych chi’n ei yfed?
Os ydych chi’n teimlo eich bod yn yfed alcohol neu’n defnyddio sylweddau eraill er mwyn ymdopi gyda’ch trafferthion, cysylltwch gyda CAIS ar 0345 06 121 12 neu ewch i www.cais.co.uk i wybod mwy.
• Ydy eich trafferthion yn sgil cyflwr iechyd hirdymor neu yn sgil bod yn ofalwr?
Mae’n bosib y byddai Rhaglen Addysg i Gleifion (EPP) yn wasanaeth mwy addas. Mae gwybodaeth am yr hyn sydd ar gael ar www.eppwales.org ynghyd â gwybodaeth ar sut i gyfeirio’ch hun.
Os ydych chi’n credu fod Parabl yn addas ichi, cysylltwch gyda ni i drefnu asesiad cynhwysfawr dros y ffôn. Byddwn yn penderfynu ydych chi’n gymwys ai pheidio ac yn mynd ati i geisio adnabod eich anghenion unigol.